Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd
Dyddiad: Dydd Mercher, 19 Hydref 2016
Amser: 09.15 -
10.40
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/3760
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Dai Lloyd AC (Cadeirydd) Dawn Bowden AC Jayne Bryant AC Angela Burns AC Rhun ap Iorwerth AC Caroline Jones AC Julie Morgan AC Lynne Neagle AC |
Tystion: |
Mario Kreft, Fforwm Gofal Cymru Mary Wimbury, Fforwm Gofal Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Sarah Beasley (Clerc) Sarah Sargent (Dirprwy Glerc) Gareth Pembridge (Cynghorydd Cyfreithiol) Philippa Watkins (Ymchwilydd) Dr Paul Worthington (Ymchwilydd) |
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 283KB) Gweld fel HTML (141KB)
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
2.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Fforwm Gofal Cymru.
3.1.a Nododd y Pwyllgor y llythyr oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon a Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol.
4.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
5.1 Trafododd y Pwyllgor yr holl dystiolaeth a gafwyd mewn perthynas â'r ymchwiliad i barodrwydd ar gyfer y gaeaf, a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon cyn y sesiwn dystiolaeth gydag ef ar 17 Tachwedd, yn amlinellu'r prif themâu sy'n codi.
6.1 Cafodd y Pwyllgor drafodaeth bellach ynghylch Deiseb P-04-682 y Pwyllgor a chytunodd i ysgrifennu at Rwydwaith Diabetes Plant a Phobl Ifanc Cymru i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am y camau i wella'r canlyniadau ar gyfer plant a phobl ifanc sydd â diabetes math 1 yng Nghymru. Cytunodd y Pwyllgor y gallai'r ymateb gan y Rhwydwaith fod yn sail i lythyr at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon.
6.2 Hefyd, nododd y Pwyllgor astudiaeth sy'n mynd rhagddo yn yr Almaen i ystyried a yw rhaglen sgrinio ar gyfer diabetes math 1 yn ymarferol ar draws poblogaeth fawr, a chytunodd i gynnal ymchwiliad byr i adolygu canlyniadau'r astudiaeth pan fydd yn cael ei chwblhau yn 2017.
7.1 Cafodd y Pwyllgor drafodaeth bellach ynghylch Deiseb P-04-532 a nododd fod y Cynllun Cyflawni ar gyfer Cyflyrau Niwrolegol i'w adnewyddu yn 2017. Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon i ofyn am y diweddaraf ynghylch yr amcanion perthnasol a'r camau penodol y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd.
8.1 Trafododd y Pwyllgor y llythyr gan y Pwyllgor Busnes a nododd yr amserlen arfaethedig.